Gwneud pethau’n wahanol
“Roedd y rhaglen yn dda iawn i ni yn y sefyllfa roedden ni ynddi. Roedden ni’n gwybod fel busnes wrth edrych ymlaen at 2050 y byddai ein gweledigaeth i adeiladu sefydliad mwy cadarn yn golygu bod gofyn i ni wneud pethau’n wahanol iawn... roedd angen i ni ddeall ein problemau a’r atebion.”
Trystan Davies
Defnyddio model arloesi
“Roedden ni wedi defnyddio’r hyn roedden ni wedi’i ddysgu ar y rhaglen i fynd yn ôl at ein cyflenwr a thrafod yr heriau roedden ni wedi’u hwynebu gyda’r cynnyrch, a’r hyn roedden ni’n meddwl oedd angen ei wneud yn wahanol.”
Trystan Davies
Proses a modelu
"Drwy DIPFSCC, fe wnaethon ni nodi’r broblem, nodi ein hanghenion allweddol, ac yna siarad am ddyluniadau gyda’n cyflenwyr.”
Trystan Davies
Gwerth ychwanegol
"Bydd ein hateb newydd yn cynhyrchu data a fydd yn ein helpu i reoli asedau yn y tymor hir er mwyn deall pryd a pha mor effeithiol y gallwn gynnal ased, a phryd y mae’r cynnyrch hwnnw wedi dod i ddiwedd ei oes ddefnyddiol."
Trystan Davies
Perthynas â chyflenwyr
“Rydyn ni’n sicr wedi datblygu cysylltiadau mwy effeithiol â chyflenwyr. Rydyn ni’n deall beth yw eu galluoedd, gan fod yn agored ar y ddwy ochr, gan ein galluogi i ddeall sut y gellid cymhwyso’r cysylltiadau hyn i’n hystâd gyffredinol o offer.”
Trystan Davies
Dod ag arloesedd yn fyw
“Roedd y rhaglen yn gyfle gwych i ddod â phobl eraill o Dŵr Cymru, nad ydynt o reidrwydd yn ymwneud yn uniongyrchol â’r tîm arloesi, i gael hyfforddiant ac arsylwi’r hyn mae pobl eraill yn ei wneud er mwyn dod ag arloesedd yn fyw.”
Euan Hampton
Defnyddio’r model
“Am gyfnod rhy hir, rydyn ni wedi dibynnu ar y diwydiant i gyflwyno offer a thechnegau i ni, ac wedi defnyddio hynny i ddatrys y problemau sydd gennym. Fe ddylem fod yn trafod ein problemau ac yn datblygu gyda’n gilydd.”
Euan Hampton
Dod ag arbenigedd ynghyd
“Roedd gweithio gyda’n cyflenwyr i ddarlunio’r gwaith a gweithredu’r ateb yn ddefnyddiol iawn.”
Euan Hampton
Rhannu problemau a heriau
“Fy nod o’r sesiynau oedd profi sut gall Dŵr Cymru ddelio â datblygu cynnyrch a sut, fel sefydliad, mae angen i ni newid o ran y ffordd rydyn ni’n gweithio gydag eraill ac yn rhannu ein problemau a’n heriau.”
Euan Hampton
Awydd am arloesedd
“Roedd yn ddefnyddiol iawn i Ddŵr Cymru gael ei weld fel cwmni sydd eisiau arloesi a dod â chyflenwyr at ei gilydd.”
Euan Hampton